Clwb Tropica Non Alc

English | Cymraeg

Ein barn ar Clwb Tropica Non Alc

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 99 (30 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Wedi cychwyn yng Nghasnewydd yn 2012, mae Tiny Rebel wedi hen ennill eu plwyf fel bragwyr anturus cwrw arloesol mewn caniau cofiadwy.

Mae’r cwrw gwelw trofannol yma wedi’i becynnu, fel pob un o’u diodydd, mewn can sy’n gyforiog o ddelweddau graffiti – ynghyd â’r hollbresennol arth unllygeidiog mewn hwdi. Mae’r cwrw ei hunan yn union fel byddwch chi’n ei ddisgwyl gan Tiny Rebel, sef annisgwyl. Anaml cewch chi hopys, mango a pîn-afal yn yr un gwydryn. Efallai na fydd at ddant pawb ond roedd ein panel profi wrth eu bodd.

Cawson ni fe ar werth yn Sainsbury’s a Waitrose.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​