Lowtide NEIPA the Cosmic Turtle

English | Cymraeg

Ein barn ar Lowtide NEIPA the Cosmic Turtle

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 76 (23 per 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Tim Jenkins o flog yr Alcohol-Free Explorers. Cewch chi Tim ar Twitter @afbeerexplorer

Dyma un o ddau gwrw a lansiwyd ym mis Medi 2021 gan fragdy di-alcohol Lowtide yng Nghaerfaddon.

Mae Lowtide yn hoff o roi cynnig ar wahanol fath o gwrw, a dangos sut gallan nhw eu gwneud yn ddi-alcohol, ac maen nhw’n uchel eu parch yn y gymuned ddi-alcohol. Y tro yma, fel gwelwch chi o’r enw, maen nhw wedi creu Cwrw Gwelw Lloegr Newydd (NEIPA). Fel pob un o’u diodydd, mae celf gofiadwy gan John Miles ar y can. Mae’r cwrw ei hun wedi’i fragu gyda’r hopys sy’n nodweddiadol o ddull bragu Lloegr Newydd: Citra, Mosaic, Armarillo ac El Dorado.

Y peth cyntaf sylwais i arno am y cwrw wrth ei dywallt yw ei fod e’n gwbl glir, heb ddim o’r lliw cymylog basech chi’n ei ddisgwyl mewn NEIPA. Mae’r arogl yn eithaf cynnil, gyda mymryn ffrwythau trofannol. Mae’n teimlo’n dda yn y geg ac mae tipyn o drwch iddo, er nad yw e mor drwchus ag NEIPA arferol. Cwrw eithaf llyfn yw e ond mae tipyn o chwerwder a sitrws wrth i chi ei lyncu.

At ei gilydd, dyma gynnig teg ar ddull cwrw sy’n anodd ei wneud yn ddi-alcohol, ond byddai’n braf cael mwy o drwch a mwy o olwg gymylog arno.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​