Nirvana Sutra IPA

English | Cymraeg

Ein barn ar Nirvana Sutra IPA

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 4 o 5

Yn swatio ar lannau Afon Lee, yng nghanol hen East End Llundain, mae Nirvana yn un o’r bragdai di-alcohol mwyaf diddorol ac arloesol. Wedi’i sefydlu yn 2017, maen nhw wedi cyflwyno pedwar cwrw i’r byd hyd yn hyn: stowt Kosmic, cyrfau gwelw Tranta a Karma, a hwn: Sutra IPA (neu India Pale Ale).

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng IPA ac unrhyw gwrw gwelw arall? Cwestiwn da. Hyd y gwyddom ni, mae mwy o hopys mewn IPA – ac mae digon o’r planhigyn bach gwyrthiol yn Sutra IPA. Yn hynny o beth, Marmite o gwrw yw e. Os ydych chi’n hoffi hopys, byddwch chi’n dwli arno. Os yw chwerwder yr humulus lupulus yn gwneud i chi grychu eich ceg fel rhywun sydd newydd llyncu cacynen, efallai dylech chi ystyried rhai o’r diodydd eraill ar ein rhestr.

Yn draddodiadol, roedd IPA yn drwmlwythog â hopys er mwyn ei gadw’n ffres yn ystod ei daith hir o Loegr er mwyn disychedu swyddogion yr Ymerodraeth yn yr India bell (felly’r enw). Fydd dim rhaid i chithau fynd mor bell i gael llymaid ohono’r dyddiau hyn. Cawson ni ein Sutra IPA trwy wefan y Wise Bartender. Gallwch chi hefyd ei brynu gan Dry Drinker.




Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​