Sainsbury’s Session Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Session Ale

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 115 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Yn ôl pob golwg, mae Sainsbury’s yn anelu at ehangu eu detholiad o ddiodydd prin-eu-halcohol o dan eu brand eu hunain. Fel rhan o hynny, lansion nhw’r cwrw Ffrengig yma yn 2021.

Mae’r diwyg braidd yn ddi-fflach, er bod y broga yn dawnsio ar y label yn annwyl. Mae’r cwrw yn euraidd a byrlymus, er nad oes ganddo fawr ddim arogl ac mae’r blas yn weddol ddi-nod. Mae’n ddiod dda am dorri syched ond nid dyma’r cwrw mwyaf ddiddorol ar y cryfder yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​