Marks and Spencer Merlot

English | Cymraeg

Ein barn ar Marks and Spencer Merlot.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 52 (21 per 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae’r gwin coch yma yn un o driawd o winoedd sydd bellach ar gael yn Marks and Spencer o dan eu brand eu hunain. Fel llawer o winoedd di-alcohol, mae’n hanu o winllannoedd yr Almaen, ac mae’n ffrwyth llafur Reh Kendermann – y bobl wnaeth Black Tower yn win Almaenaidd mwyaf poblogaidd y byd.

Doedd y botel ddim yn ein hysbrydoli, rhaid dweud – print dau-liw o falŵn awyr boeth – ond penderfynon ni edrych heibio i hynny a chanolbwyntio ar y cynnwys! Ond roedd ein panel profi yn fwy anghytûn nag erioed o’r blaen. Roedd y naill garfan yn gweld hon yn ddiod ddymunol, heb fod yn rhy felys, er nad oedd yn debygol o gael ei chamgymryd am win. Roedd yn llall yn ei hystyried yn denau a finegraidd, ac yn methu gorffen potelaid.

Does dim byd amdani, felly. Bydd rhaid i bigo draw i Marks and Spencer i’w brofi fe drosoch eich hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​