Lyre’s Classico

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's Classico

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 46 (18 per 100ml).

Sgôr: 4 o 5

Bant â ni ar daith i’r Eidal gyda gwin pefriog Lyre’s Classico!

Wedi’i dywallt – gorau oll mewn gwydryn hir-goesog – mae ganddo liw clir a thipyn o swigod. Ar y trwyn, mae’n felys a ffres. Roedd ein panel profi yn methu cytuno ai gwin melys ynteu un sych yw hwn; ond, yn sicr, mae adflas dymunol a mymryn yn sur sy’n debyg i win alcoholaidd yn yr un dull.

Mae Lyre’s Classico yn dod mewn can chwaethus melyn gwelw gyda llun o aderyn-y-si. Mae hefyd ar gael mewn potel fwy ei maint fyddai’n gweithio’n dda mewn cinio gwadd, neu yn yr ardd gyda chriw o ffrindiau ar ddiwrnod poeth o haf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​