Nosecco

English | Cymraeg

Ein barn ar Nosecco

Sgôr:

2/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 70 (28 per 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Gan fod prosecco yn dal ar y brig o ran gwerthiant gwinoedd pefriog ym Mhrydain, dylai fod cryn alw am ddiod debyg ond heb yr alcohol. Yn anffodus, os prosecco yw eich dewis ddiod, mae’n bosibl na fydd Nosecco yn taro deuddeg i chi.

Wedi’i gynhyrchu gan GCF yn ne-ddwyrain Ffrainc, daw mewn potel art-deco hyfryd. Mae’n ddiod fywiog gyda lliw da, ond mae cryn bellter rhyngddi hi a gwin. Os ydych chi’n chwiliol am rhywbeth ffrwythaidd neis gydag awgrym o flodau’r ysgall, efallai bydd hwn at eich dant. Fel arall, daliwch i chwilio.

Mae ar werth yn Sainsbury’s ac Asda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​