Hun Chenin Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Hun Chenin Blanc

Sgôr:

3/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob can: 128 (64 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Does dim gwadu bod caniau yn ddefnyddiol dros ben. Mae nhw ysgafn, hawdd eu hailgylchu, a dydyn nhw ddim yn chwalu a gollwng dros eich pethau chi i gyd. Efallai mai dyna pam dewisodd Hun roi naw wfft i’r crachach sy’n dweud fod gwin da wastad yn dod mewn poteli, gan lansio eu casgliad o winoedd mewn caniau ar gyfer tymor gwyliau cerddorol haf 2020. Yn anffodus, doedd fawr ddim gwyliau cerddoriaeth yn 2020, ond dyw hynny ddim wedi cadw Hun rhag ennill troedle yn y farchnad. Erbyn canol 2021, roedd ganddyn nhw bump o winoedd mewn caniau 200ml twt, gan gynnwys y Chenin Blanc di-alcohol yma.

Yn sicr, mae nifer o hoelion wyth tu ôl i’r brand, gan gynnwys y seren Fformiwla 1 David Coulthard a chyn-Brif Weithredwr BrewDog, Andy Shaw. Mae eu gwinoedd yn figanaidd a sawl un yn Fasnach Deg hefyd. Mae eu gwinoedd arferol yn amrywio rhwng 11.5% ac 13.5% o ran gryfder. Cam mentrus – ac un mae’n rhaid ei groesawu – yw iddyn nhw farchnata gwin 0.5% ochr yn ochr â’r rheini.

Felly, sut mae e’n blasu? Yn gyntaf oll, mae’r arogl yn wych – mae ganddo ryw fymryn o wynt burum fel sydd gan Champagne yn aml. Mae’r blas yn dda hefyd, ond mae’n felys iawn. Os yw gwin pefriog melys at eich dant, rhowch gynnig arno, ond byddai wedi bod yn well gan ein panel profi gael rhywbeth gyda mwy o frathiad.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​