Brothers Toffee Apple Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Brothers Toffee Apple Cider

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 165 (33 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Busnes teuluol yw Brothers, wedi’i sefydlu yn 1995 ar gyfer gwerthu seidr o babell yng Ngŵyl Glastonbury. Yn ôl yr hanes, mae’r teulu wrthi’n creu seidr ers 1658. Felly, mae’n debyg eu bod nhw’n gwybod eu pethau erbyn hyn!

Rhaid i ni ddweud fod gyda ni amheuon am y Seidr Afalau Taffi yma pan gyrhaeddodd. Roedden ni’n disgwyl diod drioglyd o felys ac annaturiol ei blas. Roedden ni’n bell ohoni! Ydy, mae’n felys, ac yn bell o fod yn seidr traddodiadol, ond mae’n anodd peidio â’i hoffi. Bydd puryddion seidr yn ei wfftio, ond mae’n blasu o afalau ffres a thaffi ffres. Faint mwy gallwch chi ofyn amdano mewn diod?

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​