Smashed Apple

English | Cymraeg

Ein barn ar Smashed Apple

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.05%
Calorïau ymhob potelaid: 84 (26 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Wedi’i lansio yn 2018, mae’r seidr rhagorol yma yn un aelod o bâr. Yn gymar iddo mae cwrw – Smashed Hops – a nhwthau ill dau’n hanu o’r Dry Drinks Company yn sir Efrog.

Os yw hawlio safle unigryw yn y farchnad yn allwedd i lwyddiant, dylai’r ddiod yma fod yn llwyddiannus iawn. Mae’n llenwi bwlch amlwg yn myd y seidrau prin-eu-halcohol gan ei bod yn fwy miniog o dipyn na Stowford Press, er enghraifft; ac mae ar blaned arall i seidrau Swedaidd melys fel Kopparberg a Rekorderlig. Os yw seidr sych at eich dant, dyma’r ddiod i chi. Mae blas afalau seidr go-iawn arni, fel tasai hi’n dod yn syth o’r berllan!

Gallwch chi brynu Smashed Apple ar-lein trwy Wise Bartender, The Zero Option, a Zeroholic. Ac mae’n addas i lysieuwyr a figaniaid.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​