Belvoir Farm Alcohol-Free Gin and Tonic

English | Cymraeg

Ein barn ar Belvoir Farm Alcohol-Free Gin and Tonic

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Sgôr: 3 o 5

Yn wahanol i ambell fusnes gydag enw gwledig ei naws, mae Belvoir Farm wir yn fferm. Yn swatio ym Mro Belvoir yng nghefn gwlad sir Gaerlŷr, maen nhw’n adnabyddus am suropau ffrwythau a sudd byrlymus. Dechreuodd y cwmni ar fwrdd cegin y ffermdy yn 1984 ac mae’n tyfu o hyd ers hynny.

I raddau, mae’r jin-a-thonic yma yn fentr newydd iddyn nhw – yn gam i mewn i’r farchnad fythol-gynyddol ar gyfer diodydd di-alcohol sy’n cyfateb yn agos i rai alcoholaidd traddodiadol. Oedd y fentr yn llwyddiant?

Yn gyntaf oll, mae rhaid i ni ddweud fod hon yn ddiod wirioneddol hyfryd. Diod i oedolion yw hi – heb ormod o siwgr na gormod o swigod, a gydag adflas miniog braf. Yr unig broblem ym marn ein panel profi yw nad yw’n blasu’n debyg iawn i jin-a-thonic. Oes, mae meryw yma, ond blodau’r ysgaw yw’r blas amlycaf. Fel pob un o ddiodydd Belvoir, mae’r botel a’r label yn brydferth iawn. Mae hi’n ddiod werth rhoi cynnig arni, yn sicr. Ond os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w yfed yn lle eich hoff jin, efallai bydd rhaid i chi chwilio ymhellach.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​