Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 19
English | Cymraeg
Brathiad y finegr afalau sy’n gwneud y ddiod yma’n wahanol i’r rhelyw.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 19
Rhaid bod Mother Root yn un o’r diodydd di-alcohol mwyaf annisgwyl ar y farchnad. Tynnodd sefydlydd y cwmni, Bethan Higson, ar ddeng mlynedd a rhagor o brofiad yn y diwydiant gwin er mwyn creu’r ddiod yma, gan gael ei hysbrydoli gan ei hawydd am “wydraid o rywbeth blasus ar ddiwedd y dydd” ond heb yr alcohol.
Mae’n cael ei disgrifio fel apéritif ond mae mwy iddi na’r rhan fwyaf o apéritifs Ffrengig neu aperitivi Eidalaidd. Finegr seidr afalau organig, mêl, sinsir a tsili yw’r rysáit. Y sinsir sy’n dod drwodd yn gryfaf, ond y finegr sy’n ei gwneud yn ddiod arbennig. Heb y finegr, gallwch chi gymysgu Mother Root gyda dŵr soda a gwneud rhywbeth tebyg i gwrw sinsir o safon; brathiad y finegr seidr sy’n gwneud hon yn ddiod wahanol i’r rhelyw.
Cewch chi Mother Root ar werth yn Sainsbury’s, Waitrose a llu o siopau annibynnol, yn ogystal â’i phrynu’n syth oddi wrth ei gwneuthurwyr.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.