Bloom Sparkling Raspberry

English | Cymraeg

Ein barn ar Bloom Sparkling Raspberry

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau : 61 (22 per 100ml)

Sgôr: 3 o 5

Wedi’i sefydlu yn 2009, mae distyllfa Bloom yn un o enillwyr mawr y chwyldro jin a ddechreuodd ym marchnad ddiodydd yr ynysoedd hyn tua 2009. Yn ôl y sylfaenydd Joanne Moore, roedd hi am greu jin byddai “hyd yn oed yn sawl sy’n ffieiddio meryw yn ei mwynhau”. Yn unol â hynny, daeth ei distyllfa hi yn adnabyddus am flasau llai traddodiadol – fel fanila, rhosod, a jasmin.

Mae’r ddiod mafon fyrlymus yma yn dilyn yr un trywydd anghyffredin. Mae ganddi flas mafon ffres, heb ei lethu gan siwgr fel cymaint o ddiodydd ffrwythus di-alcohol eraill. Ac mae adflas chwerw neis, tebyg i aperitivo. Mae hi wedi ei phecynnu dwt, gyda diwyg nodweddiadol o Fictoriaidd y cwmni. At ei gilydd, diod ysgafn ac adfywiol yw hi, sy’n debygol o apelio at y rhai sydd eisoes yn dotio at y mathau newydd o jin.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​