Highball Cosmopolitan

English | Cymraeg

Ein barn ar Highball Cosmopolitan

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 83 (33 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae’r Cosmopolitan yn un o goctels mwyaf poblogaidd y byd – i’r fath raddau nes bod barmyn o Efrog Newydd i San Francisco ar hyd y blynyddoedd wedi honni mai nhw a’i dyfeisiodd. Fel llawer o’r coctels gorau, un syml yw e: fel arfer cymysged o fodca, sudd ceirios y wern, triple sec (gwirod oren) a tipyn o leim. Wrth reswm, does dim fodca yn hon.

Roedd y Cosmo yn un o ffefrynnau merched anturus Sex and the City. Oes modd, felly, ei mwynhau fel diod ddirwestol? Oes, yn sicr. Efallai fod hon fymryn yn rhy felys, ond mae hynny wedi’i gydbwyso gan adflas pleserus o finiog. Fel pob diod gymysg, mater o chwaeth yw pa faint o ba bethau i’w rhoi ynddi. Felly, bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hun ai hon yw’r Cosmo i chi.

Cewch chi wybod mwy am holl ddiodydd Highball yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​