Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 78 (31 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Highball Italian Spritz
English | Cymraeg
Ein barn ar Highball Italian Spritz
Yn boblogaidd gydag Eidalwyr ac ymwelwyr â’r Eidal ers canrif a rhagor, mae gwreiddiau’r coctel chwerw-felys pefriog yma i’w cael yn eithafion gogledd y wlad. Er mwyn mwynhau’r profiad cyflawn, mae’n debyg dylech chi fod yn ei lymeitian yn yr heulwen ar lannau camlesi Fenis. Ond mae’r Highball Italian Spritz yma o’r Fforest Newydd yn cynnig rhywbeth go agos.
Mae’r gŵr a gwraig a’i creodd, Red a Kate Johnson, wedi yn bod yn ddigon doeth i lynu’n agos wrth y rysáit draddodiadol – ar wahân i absenoldeb yr alcohol, wrth gwrs! Ond go brin byddwch chi’n gweld eisiau’r alcohol wrth fwynhau miniogrwydd a melystra’r ddiod yma. O bosibl, mae hi ychydig yn rhy felys – gan beri i ni roi sgôr o bedwar iddi yn lle pump – ond yn wir, does dim llawer i gwyno amdano yma.
Cewch chi wybod mwy am holl ddiodydd Highball ar eu gwefan nhw.