Savyll Paloma

English | Cymraeg

Ein barn ar Savyll Paloma

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 71 (28 ymhob 100 ml)

Mae’r adolygiad yma wedi’i seilio ar sylwadau gan ein triawd o awduron gwadd Adela Meer , Susan Laurie a Tasha Kerr-Dineen

Crëwyd coctels Savyll gan ddarpar-dad oedd am fyw yn iachach ond hefyd dal i fwynhau diodydd soffistigedig. Mae’r Paloma yma un o bedair diod greodd e.

Roedd ein tri blaswr yn mwynhau’r ddiod yma, gan ei chael yn nerthol, byrlymus ac adfywiol. Mae ganddi flasau grawnffrwyth a sierbet, yn ogystal ag awgrym o tecila (er nad oes yma ddim alcohol o gwbl). Mae’n rhosliw dymunol ac yn ddiod foddhaol a ffres. Mae’n dod mewn potel wydr neis gyda chapan copr twt, neu mewn caniau yr un mor drwsiadus yr olwg. Ym marn un adolygwr byddai’n ddiod dda ar gyfer ciniawau busnes a bwytai arobryn.

Roedd ein tri adolygwr yn anghytuno o ran y sgoriau roddon nhw: pum pwynt allan o bump gan ddau ohonyn nhw, a thri allan o bump gan y llall. Fel pob tro, bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hunan.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​