Equinox Ginger Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Equinox Ginger Kombucha

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5% neu lai
Calorïau: 33 (13 per 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Dyma adolygiad gwadd gan Reolwr Swyddfa Alcohol Change UK, Jenni Bradshaw.

Dwi’n hoff iawn o kombucha ers tipyn erbyn hyn. Wnes i erioed fentro tyfu’r ddiod mewn jar yn y gegin gan ddefnyddio SCOBY ond dwi wedi rhoi cynnig ar sawl un o’r rhai sydd ar gael yn y siopau.

Ces i Equinox Organic Kombucha yn y Co-op lleol ac dwi’n ei yfed bron i bob amser cinio ers hynny. Mae hanes diddorol tu ôl i Equinox, gan gychwyn trwy ddarganfod kombucha wrth deithio yn yr India ac wedyn creu bragdy bach yn eu cegin, nes dod yn gwmni arobryn erbyn heddiw. Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi ymroi i “fragu’r kombucha organig crefftus gorau gawsoch chi erioed.” O ystyried faint o weithiau iddyn nhw ennill gwobrau Great Taste, mae’n debyg iddyn nhw lwyddo.

Mae sawl blas ar gael, gan gynnwys ‘gwreiddiol’, ond dwi fel arfer yn mynd am y sinsir oherwydd dyna un o fy hoff sbeisiau. Maen nhw’n cymysgu te gwyrdd Chun Mee gyda blasau naturiol eraill wrth fragu’r ddiod, ac yn ôl y sôn mae’r siwgr a’r te yn troi’n asidau amino, fitaminau bacteria buddiol. Mae angen cadw’r diodydd yn yr oergell er mwyn eu chadw rhag eplesu rhagor a difetha’r blas.

Wedi’i hoeri, mae’r ddiod yn gogleisio’r tafod ac mae cydbwysedd perffaith rhwng blas kombucha a gwres y sinsir. Mae’r diodydd wedi’u carboneiddio’n ysgafn, felly mae tipyn o swigod ynddyn nhw. Wrth gyrraedd y trwyn, mae arogl cynnes sinsir ffres newydd ei dorri. Mae’r gwneuthurwyr yn awgrymu ychwanegu sleisen o lemwn a pharu’r ddiod gyda bwyd Asiaidd. Gan ei bod yn gyfan gwbl organig, figanaidd a di-gwlten, ac i fod yn iachus iawn, mae’r kombucha yma wastad yn teimlo fel dewis da i fi, gyda phryd o fwyd neu ar ei phen ei hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​