Asda Botanical: Premiwm a Rhiwbob a Sinsir

English | Cymraeg

Ein barn ar Asda Botanical: Asda Botanical: Premiwm a Rhiwbob a Sinsir.

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 22
Sgôr: 2 o 5

Mae Asda yn un o siopau mawrion mwyaf y wlad. Felly, pan maen nhw’n ychwanegu dwy wirod ddi-alcohol at eu stoc, mae’n eglur fod galw cynyddol am y fath ddiodydd.

Fel rhan o’u detholiad Extra Special, mae Asda yn cynnig dwy ‘ddiod fotangeol’. Mae’r naill yn cael ei disgrifio’n syml fel Premiwm, y llall yn fwy penodol fel Rhiwbob a Sinsir. Dôn nhw ill dwy mewn poteli trwsiadus gyda lluniau hen ffasiwn o’r cynhwysion, sydd i’w gweld trwy edrych trwy’r ddiod. Does dim un o’r ddwy’n blasu’n debyg i jin traddodiadol. Ond os ydych chithau’n un o’r miloedd o bobl sydd wedi bod yn gwthio ffiniau diffiniad ‘jin’ ers blynyddoedd, efallai byddan nhw at eich dant. Mae gan y ddiod Premiwm ryw frathiad lemwn. Mae’r un Rhiwbob a Sinsir yn fwy ffrwythus. Maen nhw ill dwy yn eithaf miniog, bron yn sbeisiog.

Maen nhw ar werth am ryw £10 yn llai na rhai o’r gwirodydd di-alcohol mwy adnabyddus. Felly gallan nhw fod yn fan cychwyn da os ydych chi’n pryderu am wario’n drwm ar ddiod ddieithr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​