Crossip Fresh Citrus

English | Cymraeg

Ein barn ar Crossip Fresh Citrus.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 80
Sgôr: 4 o 5

Treuliodd Carl Brown, sefydlydd Crossip, bum mlynedd yn dyfeisio triawd o wirodydd di-alcohol. Yn eu plith mae hon, sydd ar gyfer gwneud pwnsh ffrwythau neu Cosmopolitan dirwestol.

Roedd y blasau ffrwythus yn dod drwodd yn arbennig o dda, ym marn ein panel profi, ond doedden nhw ddim yn ormodol, ac wedi’u cydbwyso gan adflas chwerw dymunol iawn. Byddai Crossip Fresh Citrus yn gwneud y tro i’r dim mewn jwg mawr llawn ffrwythau ffres, soda neu donic, a rhew, ar ryw brynhawn o haf hirfelyn tesog, neu’n gynnes gyda sleisiau orenau fel gwin poeth ar hirnos o aeaf duoer. Cewch chi weld syniadau Crossip ar gyfer cymysgu eu Fresh Citrus yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​