Crossip Pure Hibiscus

English | Cymraeg

Ein barn ar Crossip Pure Hibiscus.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 56
Sgôr: 3 o 5

Byddwch yn barod am ffrwydrad o flasau gyda Crossip Pure Hibiscus! Yn gymysg gyda dŵr swigod neu mewn coctel, mae’r ddiod yma yn cynnig blasau newydd ac unigryw. Mae nodau clof, hibisgws a phîn yn rhoi naws wresog a chwerw, ond wedi’i chydbwyso â ffresni braf. Er nad oedd hi’n ffefryn gan bob un o’n panel profi, mae’n bell o fod yn ddiflas ac yn sicr o ennyn trafodaeth. Sbïwch ar syniadau Crossip ar gyfer cymysgu Pure Hibiscus yma.

Treuliodd Carl Brown o gwmni Crossip bum mlynedd yn datblygu ei wirodydd di-alcohol, a chewch chi ddarllen adolygiadau o bob un o’r tair diod ar y tudalennau hyn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​