Dochus

English | Cymraeg

Ein barn ar Dochus.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Cyrhaeddodd Dochus y farchnad ddiodydd yn 2019, yn ffrwyth llafur y brodyr Roddy a Kerr Nicoll o’r Alban. Mae dau fath i’w cael: Highland Bothy a Smokey Ise, a dôn nhw ill dau mewn poteli boliog golygus ac ysblennydd o drwm.

Dwy ddiod go wahanol i’w gilydd ydyn nhw o ran gwedd a blas, ond maen nhw ill dwy yn tynnu cryn dipyn o’u sawr a’u lliw o hen gasgenni wisgi ac mae’n eglur mai yfwyr wisgi yw’r darpar-gwsmeriaid mae’r cynhyrchwyr yn anelu atyn nhw’n bennaf. Highland Bothy yw’r fwyaf llyfn o’r ddwy, bron yn hufennog gyda mymryn o garamel. Yn ôl y disgwyl, mae Smokey Isle yn fwy myglyd a mawnllyd. Mae iddi hefyd naws fwy cynhesol, alcoholaidd braidd.

Fel basech chi’n disgwyl gyda diodydd mor arloesol â’r rhain, roedd ein panel profi wedi’i hollti’n ddau amdanyn nhw. Roedd rhai yn eithaf hoff ohonyn nhw, ac eraill yn methu’n lân â’u stumogi. Fel pob tro, bydd rhaid i chi eu profi drosoch chi’ch hunan. Mae’r ddwy ddiod ar gael i’w prynu gan y gwneuthurwyr.

A rhag ofn eich bod chi’n ansicr sut i ddweud yr enw, gair Gaeleg yw e ac mae’r ‘ch’ yn union fel yn Gymraeg.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​