Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 12
Sgôr: 4 o 5
Adeiladodd Alexander Gordon ei ddistyllfa yn Llundain yn 1769. Erbyn hyn, Gordon’s yw jin mwyaf poblogaidd y byd, ar gael ymhob man o dafarndai bach i Balas Buckingham. Pan fydd cwmnïau fel hwn yn dechrau cynhyrchu diodydd dirwestol, mae’n weddol amlwg nad rhyw dân siafins o beth yw gwirodydd di-alcohol.
Mae’n fwy na thebyg mai blas Gordon’s Gin yw’r blas mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei ystyried yn flas jin arferol, traddodiadol – blas meryw yn anad dim. Yn union fel jin alcoholaidd y cwmni, meryw yw sylfaen blas Gordon’s 0.0, ond mae hefyd awgrym o sitrws. Yn wir, mae gan y ddiod yma flas mwy cymhleth a diddorol na Gordon’s arferol. Mae’n amlwg nad yw e i fod ar gyfer ei yfed ar ei ben ei hun, ond wedi’i gymysgu gyda thonic mae’n ddiod a ddylai blesio’r rhan fwyaf o garedigion jin traddodiadol.
Roedd ein panel profi yn methu cytuno oedd hi’n haeddu 4 neu 5 allan o 5 – felly, fe roddon ni sgôr o 4½ iddi.