Lyre's G&T

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's G&T

Sgôr:

3/5

Gwirod Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can:
64 (25 per 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Peth anodd yw ail-greu diod sy’n gymaint o hen ffefryn â G&T. Mae’n glasur o ddiod sy’n hen gyfarwydd i gymaint o bobl. Oes modd ei gwneud hi’n ddi-alcohol mewn modd sy’n plesio’r rhai sydd wedi arfer â’r fersiwn traddodiadol?

Mae’r GNT yma yn dod mewn can glas golau braf, gyda llun twt o golomen dre mewn het gron fel hen fonheddwr o fanciwr. Yn y gwydryn, mae’n gwynto fel GnT. Mae’n glir, ffres, a bywiog. Mae’r meryw yn dod drwodd yn dda, ond fe allai’r ddiod orffen ychydig yn sychach. Mae hi’n gweithio’n dda fel mae hi, mewn gwydryn mawr gyda rhew a lemwn, ond mae’n bosibl ei bywiogi’n fwy fyth gyda gwahanol ffrwythau a pherlysiau. Byddai’n fan cychwyn da i sesiwn gwneud moctels gyda chriw o ffrindiau.

Bachwch eich Lyre’s yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 i gael 20% oddi ar bris pob potelaid 70cl o wirodydd

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​