Rumish

English | Cymraeg

Ein barn ar Rumish.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Fel llawer o’r diodydd di-alcohol newydd sy’n cyrraedd y farchnad, mae stori dda tu ôl i hon. Ar ôl derbyn sialens i beidio â chyffwrdd â diferyn o alcohol am gant o ddyddiau, roedd Morten Sørensen am “droi arferion yfed ar eu pen” a chreu diod i’r “rhai sy’n gallu dawnsio’n ddi-baid heb fod dan ddylanwad, a’r rhai sydd eisiau deffro heb ben tost bore Sul”. Felly, fe greodd e Rumish, un o bâr gyda Ginish.

Wedi’i distyllu yn Nenmarc, mae’n dod mewn potel drwsiadus gyda lliwiau copr a du. Mae ganddi arogl pwdin ’Dolig pleserus, ac er ei bod yn teimlo braidd yn denau ar y tafod, mae ganddi adflas cynhesol iawn – bron yn boeth. Mae llwyth o ryseitiau coctêls ar wefan y cwmni. Ac mae fideo bach neis, yn Ddaneg gyda esboniad Saesneg, yn adrodd yr hanes.

Cewch chi hi ar werth yn Holland and Barrett.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​