Lyre’s Italian Spritz

English | Cymraeg

Ein barn ar Lyre's Italian Spritz

Sgôr:

4/5

Gwirod Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 83
Sgôr: 4/5

Ar phen ei hun, mae Lyre’s Italian Spritz yn chwerw-felys gyda blas llawn orenau. Mae’n agos iawn at aperitivo Eidalaidd, ond heb yr alcohol!

Rydyn ni wedi mwynhau ei chymysgu â’r Prosecco Grande di-alcohol gan yr un cwmni er mwyn creu Amalfi Spritz adfywiol braf. Mae’n berffaith ar gyfer diwrnod poeth o haf neu ar gyfer eistedd wrth y tân gefn gaeaf. Ac os ydych chi am roi cynnig ar yr Amalfi Spritz, dyma’r rysáit.

Bachwch eich Lyre’s yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 i gael 20% oddi ar bris pob potelaid 70cl o wirodydd

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​