Alcohol a chalorïau

English | Cymraeg

28 Mehefin 2010

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.25Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Mae magu gormod o bwysau’n destun pryder i lawer o bobl, ac nid unig am eu bod yn poeni am sut olwg sydd arnynt. Mae 57% o oedolion Cymru bellach dros eu pwysau neu’n ordew ac mae magu gormod o bwysau’n gysylltiedig ag amrywiaeth o broblemau iechyd.

Mae amryw o resymau pam mae cynifer o bobl yn magu pwysau, a’r rhain yn gysylltiedig â newidiadau mewn patrymau bwyta a gweithgarwch corfforol. Yn syml iawn, mae llawer ohonom yn cymryd mwy o galorïau i mewn ar ffurf bwyd a diod nag y mae ein cyrff yn eu defnyddio. Rhan bwysig o hyn yw’r cynnydd yn yr alcohol sy’n cael ei yfed.

Mae diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am faint o galorïau sydd mewn diodydd alcoholig, ac am sut mae angen rheoli’r alcohol yr ydym yn ei yfed er mwyn cadw pwysau iach.

Mae’r papur briffio hwn yn nodi peth gwybodaeth sylfaenol am galorïau ac alcohol, ac yn gwneud argymhellion er mwyn sicrhau y gall pobl ddewis yn iachus wrth gynnwys alcohol yn eu deiet.