Tanwydd ar y tân? Gwerthu alcohol mewn gorsafoedd petrol yng Nghymru

English | Cymraeg

26 Gorffennaf 2010

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.17Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Gall damweiniau yfed a gyrru effeithio ar bob math o ddefnyddwyr ffyrdd, gan gynnwys gyrwyr, teithwyr a cherddwyr. Drwy gyfuniad o waith plismona ac ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd cyson, llwyddwyd i leihau nifer y damweiniau hyn yn sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae cynifer ag un o bob chwe marwolaeth ar ffyrdd y DU yn cael ei hachosi gan yrwyr sydd dros y terfyn alcohol cyfreithiol. Yn 2008, roedd 5,183 o brofion anadl cadarnhaol neu wedi’u gwrthod yng Nghymru.

Gall yfed o dan ddylanwad alcohol amharu ar farn unigolyn ac felly ar ei allu i yrru’n ddiogel. Mae rhai gwledydd wedi gwahardd gwerthu alcohol o garejys/gorsafoedd petrol, yn bennaf o ganlyniad i’r gydberthynas rhwng yfed alcohol a damweiniau cerbydau modur. Yng Nghymru a Lloegr, fodd bynnag, mae hi’n dal yn gyfreithlon i orsafoedd petrol werthu diodydd alcoholig, os ydynt wedi cael y drwydded briodol.

Mae’r papur briffio hwn yn edrych ar werthu alcohol mewn gorsafoedd petrol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol. Ysgogi a chyfrannu at ddadl gyhoeddus ehangach ar y pwnc pwysig hwn yw’r bwriad.