Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
24 Mehefin 2013
Crynodeb gweithredol
Mae yfed dan oed yn dal i fod yn destun pryder difrifol yng Nghymru. Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu alcohol i bobl dan 18 oed, mewn gwirionedd, mae modd i blant a phobl ifanc gael gafael ar alcohol, naill ai trwy oedolion sy’n ei brynu drostynt, neu’n uniongyrchol eu hunain.
Nid yw gwasanaethau bwyd archfarchnadoedd ar-lein, na gwasanaethau dosbarthu alcohol i’r cartref bob awr o’r dydd a’r nos wedi cael llawer o sylw hyd yma fel ffynhonnell alcohol bosibl i bobl dan oed. Yn ystod Ionawr a Chwefror 2013, cynhaliwyd arolwg ar-lein, ar ran Alcohol Concern Cymru, o bron i 1,000 o bobl yng Nghymru rhwng 14 a 17 oed, er mwyn canfod faint roeddynt yn defnyddio’r fath wasanaethau.
O blith y 636 o ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi prynu alcohol neu wedi ceisio ei brynu o’r blaen iddynt hwy eu hunain neu i rywun arall, dywedodd 15 y cant eu bod wedi llwyddo i brynu alcohol ar-lein, a dywedodd dau draean o’r rhain ei bod yn “hawdd” gwneud hynny. Yn yr un modd, dywedodd 13 y cant eu bod wedi prynu alcohol yn llwyddiannus dros y ffôn gan wasanaeth dosbarthu i’r cartref, ac unwaith eto dywedodd dau draean o’r rhain ei bod yn “hawdd” gwneud hynny. Dewiswyd gwasanaethau dosbarthu alcohol ar-lein a thros y ffôn gan lawer, gan eu bod yn eu hystyried yn ffyrdd hawdd i osgoi gorfod profi eu hoedran, ac yn ffordd gyflym a chyfleus i gael alcohol.
Ym mis Mawrth 2013, cynhaliodd Heddlu De Cymru brofion prynu yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio pobl ifanc 15 oed, er mwyn canfod a oeddent yn gallu prynu alcohol o wefannau bwyd archfarchnadoedd mawr. Canfuwyd y gellid prynu alcohol ar-lein yn gymharol hawdd, drwy gytuno i’r telerau ac amodau a nododd eu bod yn 18 oed neu’n hy ^n, a bod ganddynt gerdyn debyd a chyfeiriad e-bost. Mewn 44 y cant o’r profion, rhoddwyd alcohol i’r prynwyr prawf yn bersonol heb ofyn iddynt am brawf o’u hoedran.
Dengys canlyniadau ein harolwg fod lleiafrif sylweddol o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael alcohol drwy wefannau archfarchnadoedd a gwasanaethau dosbarthu i’r cartref, ac mae profion prynu’r heddlu’n awgrymu nad yw polisïau dilysu oedran yn cael eu dilyn yn ddigonol. Felly mae Alcohol Concern yn gwneud yr argymhellion canlynol:
Argymhelliad 1
Dylai archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill sy’n darparu gwasanaeth dosbarthu alcohol i’r cartref adolygu eu gweithdrefnau dilysu oedran ar gyfer yr adeg gwerthu a’r adeg dosbarthu, er mwyn canfod a ydynt yn gweithio. Dylai manwerthwyr roi sylw arbennig i egluro i gwsmeriaid bod yn rhaid i archebion sy’n cynnwys alcohol gael eu derbyn gan oedolyn. Dylai manwerthwyr sicrhau bod staff dosbarthu yn cael hyfforddiant priodol am y weithdrefnau yn ymwneud â gofyn am brawf oedran priodol a’i gadarnhau, a dylent gadw at y gweithdrefnau hyn bob tro.
Argymhelliad 2
Dylid cynnal rhagor o ymchwil i weld faint o blant a phobl ifanc sy’n prynu alcohol ar-lein a/neu dros y ffôn. Argymhellir cynnal profion prynu ehangach gan heddluoedd a swyddogion safonau masnach.
Argymhelliad 3
Dylai Llywodraeth Prydain adolygu effeithiolrwydd y gyfraith drwyddedu gyfredol sy’n ymwneud â dosbarthu alcohol i’r cartref, er mwyn canfod a yw’n diogelu plant a phobl ifanc yn ddigonol rhag niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.