Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.
English | Cymraeg
11 Mehefin 2012
Cyflwyniad
Mae’n eithaf amlwg erbyn bod dwy brif ffordd i leihau’r niwed sy’n deillio o alcohol: codi pris alcohol, a’i wneud yn fwy anodd neu’n fwy anghyfleus ei gael. Po fwyaf o lefydd y mae alcohol ar gael a pho hawsaf yw ei gael, y mwyaf ohono y gellir ei yfed; a’r mwyaf fydd y duedd i yfed yn aml ac yn ormodol ddod yn normal a derbyniol o fewn cymdeithas. Mae hyn wedyn yn gwaethygu problemau sy’n ymwneud ag alcohol.
Mae clystyru nifer fawr o safleoedd gwerthu alcohol mewn ardal ddaearyddol fach yn fwyfwy cyffredin yng nghanol trefi a dinasoedd ym Mhrydain. Mae alcohol, felly, yn haws ei gael, ac ar gael mewn mwy o lefydd yn yr ardaloedd hyn na mewn mannau eraill. Oherwydd hyn, mae trafodaethau am amlder safleoedd gwerthu alcohol fel arfer yn canolbwyntio ar effaith y fath glystyrau o safleoedd trwyddedig yng nghanol ein trefi.
Mae’r papur hwn yn edrych yn fanylach ar bwnc amlder safleoedd gwerthu alcohol ac yn gofyn a fydd lleihau faint o lefydd y gellir prynu alcohol hefyd yn lleihau’r niwed sy’n deillio o alcohol.