Creu argraff: Plant ysgol gynradd yn adnabod brandiau alcohol

English | Cymraeg

19 Mawrth 2012

Llwythwch i lawr pdf

Bachwch y papur briffio (0.26Mb)

Nodwch: Cafodd yr adroddiad hwn ei ariannu neu’i ysgrifennu gennym o dan ein henw blaenorol Alcohol Concern.

Cyflwyniad

Yn y Deyrnas Unedig, mae’r diwydiant alcohol yn gwario tua £800 miliwn y flwyddyn yn marchnata ei gynnyrch, drwy hysbysebu, brandio a noddi. Mae effaith marchnata o’r fath ar ymddygiad plant a phobl ifanc wedi bod yn bwnc trafod mawr. Mae cynrychiolwyr y diwydiant alcohol yn mynnu nad ydynt yn targedu marchnata at neb dan 18 oed, er gwaethaf dadansoddiad o ddogfennau marchnata mewnol a ddaeth i’r casgliad fod pobl ifanc yn “darged allweddol” i hysbysebwyr alcohol.

Pa un a yw plant yn cael eu targedu’n benodol ai peidio, roedd Alcohol Concern yn awyddus i wybod a yw negeseuon marchnata’r diwydiant diodydd yn cyrraedd plant, ac i ba raddau; a beth fyddai’r goblygiadau posib. Mae’r papur briffio hwn yn ystyried canlyniadau astudiaeth adnabod brandiau a logos a wnaed gyda phlant ysgol gynradd ledled Cymru.