7 Hop 7 Grain

English | Cymraeg

Ein barn ar 7 Hop 7 Grain.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob can: 109 (33 ymhob 100ml)

Mae bragwyr Brulo o’r Alban wedi addo rhoi pwyslais mawr ar yr hopys yn eu cwrw, ac mae’r cwrw yma wedi’i greu gyda saith math o hopys yn ogystal â saith math o rawn – gan gynnwys reis, barlys, ceirch, ŷd a rhyg. Y canlyniad yw cwrw cymylog a bywiog iawn gyda digon o ewyn. Diod go chwerw yw hi ond gyda chydbwysedd da rhwng hopys a brag, ac awgrym o sitrws. Hyfryd iawn!

Fel pob un o ddiodydd Brulo, mae’n dod mewn can trawiadol gyda llygad yng nghanol y label. Yn ôl y sôn, daeth y syniad am hwnnw o bosteri Japaneaidd yr 1960au – arwydd arall o ymroddiad y bragwyr i chwilio am ddulliau a deunyddiau newydd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​