Adnams 0.5 Cabernet Tempranillo

English | Cymraeg

Ein barn ar Adnams 0.5 Cabernet Tempranillo.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 30

Mae’n amlwg fod Adnams yn ymfalchïo fod cyn lleied o alcohol yn y gwin coch yma, gan fod rhifau mawr “0.5” i’w weld yn bowld i gyd ar y label. Mae gwneud gwin coch di-alcohol yn anodd ar y naw. Sut mae Adnams wedi gwneud arno? Yn gyntaf oll, mae ganddo liw coch dwfn, braf, ac arogl gwin da. Dyw’r blas ddim yn rhy felys nac yn rhy sur ac mae digon o nodau cyrens du a mwyar duon dymunol. Does neb wedi creu gwin coch 0.5% perffaith eto ond bydd hwn yn gwneud y tro os ydych chi’n chwilio am rywbeth i gyd-fynd â phryd o fwyd yn lle eich gwin coch arferol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​