Adnams Suffolk Blush

English | Cymraeg

Ein barn ar Adnams Suffolk Blush

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 66

Dyma adolygiad gan un o’n hawduron gwadd achlysurol: Rheolwr Swyddfa Alcohol Change UK, Jenni G Bradshaw

O bartneriaeth rhwng Adnams ac L.A Brewery daw’r ddiod yma: Suffolk Blush Kombucha hyfryd o flodeuog ac ysgafn. Mae gan Adnams eisoes ychydig o opsiynau di-alcohol ar werth ac maen nhw wedi ymuno â Louise Avery (sylfaenydd L.A Brewery) sy’n creu diodydd dirwestol sy’n garedig i’r amgylchedd.

Daw mewn potel wydr gyda chorcyn sy’n gwneud sŵn boddhaol iawn wrth ei hagor. Wrth ei thywallt, mae’r ddiod yn euraidd gydag ychydig o swigod. Mae arogl blodeuog a ffrwythus dymunol. Mae’r blas yn eich taro’n syth â blodau’r ysgaw ac adflas sawrus sy’n ychwanegu cymhlethdod i’r blas. Mae’r swigod yn ysgafn, heb fod yn ormodol, ac maen nhw’n ychwanegu at bleser profiad y ddiod. Dyma ddiod berffaith o ffres ar gyfer diwrnod poeth o haf.

Diod fwy-neu-lai di-alcohol yw hon, ond cofiwch fod cryfder alcoholaidd pob kombucha yn amrywio gan fod y scoby yn dal i eplesu.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​