Au Blue Raspberry

English | Cymraeg

Coctel di-alcohol sy’n tynnu sylw’n syth â’i chan euraidd.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 11

Wedi’i sefydlu yn Abertawe yn 2015 gan ddau hen ffrind ysgol, Jackson a Charlie, daeth Au Vodka yn ffefryn mawr gyda’i boteli euraidd, ei bresenoldeb bywiog ar y cyfryngau cymdeithasol, a’r holl gymeriadau enwog sydd wedi rhoi sêl eu bendith iddo.

Mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth anferth o flasau, ond dyma eu diod ddi-alcohol gyntaf. Gan sylwi ar dwf y farchnad ddi-alcohol, maen nhw’n dweud eu bod nhw am gynnig diod sy’n “fwy na dewis amgen; sy’n ddiod gyffrous, ddeniadol sy’n dod â phawb at ei gilydd.”

Fel pob un o ddiodydd Au, mae hon yn tynnu’r sylw’n syth oherwydd ei chan euraidd trawiadol. Mae’r ddiod tu fewn i’r can yn las iawn. Yn ein barn ni, mae hi fymryn yn felysach na’u diod mafon glas 5%, ond, ar wahân i hynny, yr un ddiod yw hi yn y bôn. Os yw coctels fodca melys at eich dant, a chithau eisiau yfed llai o alcohol, efallai mai dyma’r ddiod i chi.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​