Becks Blue

English | Cymraeg

Cwrw melyn hen gyfarwydd sy’n dal ei dir o hyd

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.05%

Calorïau ymhob 100ml: 14

Ar un adeg, Becks Blue oedd yr unig gwrw di-alcohol byddech chi’n ei weld yn oergelloedd y rhan fwyaf o dafarndai. Anaml mae ar ei ben ei hun yno y dyddiau hyn, ond mae’n dal ei dir o hyd.

Fel llawer cwrw Almaenig o safon, mae wedi’i fragu yn unol â’r Reinheitsgebot o 1516 – y ddeddf Ganoloesol sy’n dweud mai dŵr, barlys a hopys yw unig gynhwysion dilys cwrw.

Mae ganddo liw ac arogl da. Mae’r blas yn dechrau’n eithaf llyfn, ond gydag adflas chwerw hir. Nid dyma ein hoff gwrw melyn di-alcohol ond mae’n werth rhoi cynnig arno, yn enwedig os ydych chi’n hoffi mymryn o chwerwder yn eich cwrw.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​