Bitburger 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Bitburger 0.0.

Sgôr:

5/5

ABV: 0.0%
Calorïau: 73 (22 ymhob 100ml)

Sefydlwyd Bragdy Bitburger yn 1817 yn nhref Bitburg yng ngorllewin pell yr Almaen, yn ymyl ffin â Ffrainc a Lwcsembwrg. Mae’n cynhyrchu pum math gwahanol o gwrw “alkoholfrei”, gan gynnwys hwn. Cawson ni afael ar ambell botelaid ohono i’w profi tua chanol 2022. Mae ganddo liw euraidd hyfryd a digon o ewyn sy’n para’n hir. Mae’n llawn swigod mân ond heb fod yn rhy fyrlymus. Mae ganddo arogl a blas lager da, gyda mymryn o adflas chwerw. At ei gilydd, dyma gwrw Almaenig o safon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​