Bowser Leaf

English | Cymraeg

Ein barn ar Bowser Leaf

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 0
Sgôr: 4 o 5

Bowser Leaf yw’r ddiod ddi-alcohol gyntaf gan Conker Spirit, distyllfa annibynnol fach a sefydlwyd yn Dorset yn 2014. Maen nhw wedi torri eu cwys eu hunain gyda sawl jin diddorol ar gryfderau rhwng 40% a 57%. Sut un, felly, yw’r wirod ddirwestol yma ar 0%?

Yn ddi-os, mae hi’n dod mewn un o’r poteli pertaf welsom ni hyd yn hyn: yn wyn a gwyrdd gyda phatrwm syml hyfryd o ddail (gan ddwyn i gof ambell ddarlun gan William Morris). O ran y ddiod tu fewn, cawsom ni ein plesio yn fawr iawn. Nid sy’n drwmlwythog â meryw fel jin traddodiadol: mintys yw’r blas sy’n dod drwodd yn gryfaf, gydag awgrym o deim hefyd. Roedden ni’n blasu pys ffres hefyd, sydd ddim ymhlith y cynhwysion – siŵr o fod oherwydd fod mintys a phys yn mynd gyda’i gilydd mor aml (ac i’w cael gyda’i’ gilydd yn niod Seedlip Garden 108 – un arall buom ni’n ei blasu a’i barnu ar y tudalennau hyn).

Fel y rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol, dyw Bowser Leaf ddim ar ei gyfer ei hyfed ar ei phen ein hun. Yn ein profiad ni, mae’n cyd-fynd yn orau gyda thonic. Os ydych chi am gael diod annisgwyl ac adfywiol, bachwch botelaid.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​