Budvar Nealko

English | Cymraeg

Ein barn ar Budvar Nealko.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 16

Mae bragdy Budvar wedi denu digon o sylw ar hyd y blynyddoedd – yn bennaf am eu bod nhw’n hawlio’r enw ‘Budweiser’ i ddisgrifio eu cwrw.

Ar wahân i’w cynnen gyda gwneuthurwyr hoff gwrw’r Unol Daleithiau, mae Budvar hefyd yn adnabyddus am greu eu cyrfau da eu hun. Felly, pleser mawr oedd gweld y Budvar Nealko yma ar werth yn Lidl yn hydref 2023.

Mae Gweriniaeth y Tsieciaid yn enwog am gwrw ysgafn o safon, a dyw hwn ddim yn eithriad. Mae wedi’i becynnu’n dwt gyda diwyg Budvar ac fe ddaliodd ein sylw’n syth. Mae’r ddiod tu fewn i’r botel yn gwrw melyn chwerw da, gyda digon o fywyd a digon o ewyn. Hyfryd iawn wedi’i oeri'n dda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​