Caleño Dark and Spicy

English | Cymraeg

Ein barn ar Caleño Dark and Spicy

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 45
Sgôr: 4 o 5

Y ddiod Dywyll a Sbeisiog yma ail un cwmni Caleño ym Mryste, gan ymuno â’u diod Ysgafn ac Awchus a lansiwyd yn 2019.

Wedi’i siomi gan y diodydd di-alcohol oedd ar gael iddi, penderfynodd Ellie Webb ei bod yn hen bryd “gwneud peidio ag yfed yn brofiad gorfoleddus”. Yn sicr, mae hi wedi llawenhau ein panel profi. Mae Caleño Dark and Spicy wedi’i gwneud o bîn-afal, cnau-coco, sinsir, cardamom du, fanila, cnau cola, a leim. Mae hi dipyn bach fel Piña Colada sbeisiog. Mae mymryn o flas siocled hefyd – efallai mai’r cnau cola yw hwnna. At ei gilydd, mae’n ddiod unigryw.

Mae’r broliant ar y botel yn awgrym i chi ei thrio hi gyda dŵr swigod a leim ffres, ond mae digon o syniadau eraill ar gyfer ei chymysgu mewn coctels ar wefan Caleño.

Cawson ni fe ar werth yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​