Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 18
Mae gan gyrfau ffrwythus Gwlad Belg le arbennig yng nghalon rhai o garedigion yr hopys a’r brag. Go brin byddai rhywun eisiau eu hyfed nhw trwy’r amser, ond, o bryd i’w gilydd, maen nhw’n ddymunol iawn. Mae’r goreuon ohonyn nhw yn cyrraedd cydbwysedd perffaith rhwng blas cwrw a blas y ffrwythau, heb i’r naill lethu’r llall.
Cwrw cryf yw Chouffe Cherry fel arfer – gyda chryfder o 8%. Tipyn o gamp yw ei ail-greu ar 0.0%, ond mae’r bragwyr wedi llwyddo i gryn raddau. Mae mymryn bach mwy o swigod yn hwn nag yn y fersiwn cryfach, ond ar wahân i hynny, mae’r holl flasau, aroglau, a theimladau arferol i’w cael yma.
Mae gan hon naws nosweithiau’r gaeaf i ni, ond, wedi’i hoeri’n dda, mae’n debyg byddai’n gwneud y tro ar ddiwrnod o haf hefyd.