Citizen Spritz

English | Cymraeg

Ein barn ar Citizen Spritz

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: rhwng 7 ac 20, yn amrywio yn ôl y ddiod

Mentr newydd yw Citizen Spritz, wedi’i sefydlu yn 2022, gan amcanu at “wneud cymedroli beunyddiol yn rhwydd a blasus” trwy ddarparu cynhwysion di-alcohol hawdd eu cymysgu. Cymysgwch 25ml o surop cryf gyda 175ml o ddŵr byrlymus, a dyna chi.

Rhoddon ni gynnig ar dri blas: Grawnffrwyth Pinc, Orenau Chwerw, a Leim Llyfn. O’r tair diod, y Grawnffrwyth Pinc oedd ein ffefryn. Mae ganddi arogl grawnffrwyth hafaidd hyfryd a lliw grawnffrwyth pinc deniadol. Mae melystra’r agafe yn cydbwyso brathiad y grawnffrwyth yn berffaith.

Cawson ni awgrymiadau o sitrws a rhiwbob yn y ddiod Orenau Chwerw. Diod hynod chwerw yw hon a fydd hi ddim at ddant pawb. Ond os ydych chi’n hoff o aperativi chwerw’r Eidal, efallai bydd hon yn eich plesio. Roedd y ddiod Leim Llyfn yn neis, ond, i ni, hon oedd y lleiaf diddorol o’r tair diod: cymysgedd dymunol o leim, mintys ac agafe, ond llai cofiadwy na’r lleill.

Fel pob tro, bydd rhaid i chi eu profi nhw drosoch eich hun.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​