Cryfder: 0.5%
Classic Bruce
English | Cymraeg
Ein barn ar Classic Bruce, cwrw du di-alcohol gan Northern Monk.
Sgôr:
2/5
Byddwch yn barod am ffrwydrad siocledus! Mae Northern Monk yn addo bod Classic Bruce yn “gwrw du siocledus, trioglyd moethus”, wedi’i ysbrydoli gan y deisen siocled enwog Bruce gan bobyddion Get Baked yn Leeds.
Felly, oes modd i chi gadw’r deisen a’i bwyta? Ai hwn yw’r cwrw du di-alcohol sy’n codi’r safon, gyda’r blas i gyd ond heb yr alcohol? O bosib.
Roedd ein panel profi wedi’u siomi braidd, a dweud y gwir. Oes, mae awgrym braf o bwdin siocled yn gymysg â chwerwder, ond mae’n teimlo’n denau yn y geg, gan wneud diod ddidda-ddiddrwg at ei gilydd.
Mae’n werth rhoi cynnig arno, yn sicr, ond yn ein barn ni, mae gwell cyrfau duon i’w cael.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.