Clean G Rhiwbob

English | Cymraeg

Ein barn ar Clean G Rhiwbob

Sgôr:

5/5

Cryfder: dim mwy na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Sgôr: 5 o 5

Sefydlwyd cwmni diodydd CleanCo er mwyn cynnig “diodydd di-alcohol soffistigedig i oedolion, gyda llawer llai o galorïau”. Ar y dechrau roedd gan eu diodydd gryfder o 1.2% ond maen hwnnw bellach wedi dod i lawr i 0.5% neu lai. Lansiwyd Clean G Rhiwbob yn 2021 ac mae hi’n un o’i diodydd gorau hyd yn hyn.

Fel pob un o ddiodydd CleanCo, mae hon yn dod mewn potel chwech-ochrog dwt gyda naws yr 1920au yn ei chylch. Mae gan y ddiod ei hunan liw pinc hyfryd, blas sur treiddgar fel rhiwbob newydd ei goginio, a rhyw awgrym o arogl siop losin hen-ffasiwn, efallai. Mae hi’n un o’r ychydig iawn o wirodydd di-alcohol sy’n blasu’n dda ar ei phen ei hun; wedi’i chymysgu gyda thonic, mae’n rhagorol!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​