Clean W

English | Cymraeg

Ein barn ar Clean W

Sgôr:

3/5

Cryfder: dim mwy na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 34

Wedi’i sefydlu yn 2019, mae CleanCo yn tyfu eu casgliad o ddiodydd di-alcohol ar gyfer cymryd lle gwirodydd traddodiadol – rym, jin, ac nawr, wisgi.

Yn sicr, mae golwg gwirod go-iawn ar hon. Dyma ddiod ambr ei lliw mewn potel chwech-ochrog ddeniadol – apelgar iawn! Ydy’r blas yn cyfateb i’r olwg sydd arni – fel wisgi Americanaidd gain, wedi’i haeddfedu yn y gasgen? Ddim yn wir. Efallai ein bod ni’n gofyn gormod – colli cryfder alcoholaidd o 40% heb newid y blas. Ond efallai nad dyna’r pwynt. Os ydych chi’n chwilio am ddiod i oedolion i gymryd lle rhai alcoholaidd, dyma ddewis eithaf da. Mae hi braidd yn denau, ond gyda nodau derw a fanlia dymunol, ac mae hi’n cyd-fynd yn dda gyda chola.

Enillodd y ddiod yma Wobr Aur yr Her Ciniawa Anffurfiol 2022, a gallwn ni weld pam! Mae’n ddi-siwgr ac yn addas yn feganiaid hefyd!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​