Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 16
Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears
Pan godais i’r can yma roeddwn i’n poeni braidd gallai hon fod yn ddiod ddifflach braidd. Cyfuniad hen, hen gyfarwydd yw sinsir a leim, a doeddwn i ddim yn siŵr allai’r mango ei wneud yn well na diddrwg-ddidda.
Mewn gwirionedd, er nad yw’n ddiod ddiflas, dyw hi ddim yn arbennig o gyffrous chwaith. Mae’r mango ar goll braidd ymhlith y blasau eraill. Blas rhyw gynnil yw e i gystadlu ag awch asid y kombucha, gwres y sinsir, neu sïon sitrws y leim. Mae fel pe bai’r ddiod yma yn ei dal ei hun yn ôl rywsut. Mae’n braf nad yw’r blasau’n rhy gryf, ond efallai nad ydyn nhw’n ddigon cryf chwaith.
O ran ei chyplu gyda bwyd, gallai’r ddiod yma gymryd lle gwinoedd fel Albariño/Alvarinho, sy’n debyg o ran miniogrwydd a hallter. Gallai gyd-fynd yn dda hefyd gyda physgod neu salad Cesar.