Doombar Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Doombar Zero

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 73 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Wedi’i lansio’n gyntaf yn 1996, mae Doom Bar wedi hen ennill ei blwyf fel y cwrw traddodiadol mwyaf poblogaidd yr ynysoedd hyn. Nid oes pen draw i’w weld i apêl eang y cwrw coch o Gernyw. Gan fod y cwrw gwreiddiol mor adnabyddus, cam mentrus yw cyflwyno fersiwn newydd. Felly, sut mae Doom Bar dirwestol?

Mae iddo’r union un lliw coch dwfn â Doom Bar arferol. Fel llawer o gyrfau di-alcohol, mae fymryn yn fwy melys na’r ddiod gyfatebol alcoholaidd – o bosib gan nad yw’r siwgr i gyd wedi’i droi yn alcohol. Ond mae’r melystra wedi’i gydbwyso gan hopys chwerw. Mae tipyn o flas caramel hefyd – gormod ohono, efallai. Ond at ei gilydd mae’n gwrw coch hyfryd iawn.

Gallwch chi godi potelaid neu ddwy yn Tesco neu Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​