Drop Bear Guava Cut Lager

English | Cymraeg

Blas sy’n tyfu ond yn aros yn gynnil o hyd

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 16

Dyma gwrw melyn gwelw clasurol – golau ei liw a gydag ewyn byrhoedlog sy’n diflannu.

Does dim llawer o swigod ac mae’r ddiod yn eithaf llonydd yn y gwydryn. Ar y tafod mae’n ysgafn iawn ac eithaf tenau. Ar y trwyn fe gewch chi arogl gwafa amlwg, sy’n codi disgwyliadau am fwy o flas ffrwyth nag sy’n dod. Mae’r blas yn tyfu ond yn aros yn gynnil o hyd.

Mae’r blas yn gorffen gyda nodyn sych iawn, gan adael sychder yn y llawn fel cewch chi yn aml efo cwrw melyn. Yn sicr, mae blas cwrw melyn da arno, a tasech chi’n ei flasu heb wybod yn wahanol fyddech chi ddim yn dweud mai diod ddi-alcohol yw hi. 

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​