Drop Bear Pink Grapefruit Cut Lager

English | Cymraeg

Nodau grawnffrwyth sydd heb fod yn llethol

Sgôr:

3/5

Cryder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 22

O ran ei olwg a’i deimlad, mae hwn yn gwrw tebyg iawn i’r Guava Cut Lager o’r un bragdy: cwrw melyn gwelw, ewyn byrhoedlog, dim llawer o swigod, ac eithaf tenau at ei gilydd.

Gall grawnffrwyth fod yn arw a rhy chwerw, ond yn y cwrw yma mae’r grawnffrwyth yn fwy o nodyn na blas amlwg, llethol. Yn anffodus, roedd ein panel profi yn credu bod y cwrw yma yn methu’r nod, heb ddod â hoenusrwydd unigryw grawnffrwyth sy’n gwneud i chi grychu eich gwefusau. Bydd e’n apelio os ydych chi’n hoffi cwrw mwyn, llyfn sy’n gorffen gyda thipyn o furum.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​