Equinox Original Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Equinox Original Kombucha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 50 (20 ymhob 100ml)

Mae’n debyg i Equinox ddewis lliw gwyrdd i becyn y ddiod yma gan fod te gwyrdd yn sylfaen i’w blas. Yn y gwydryn, mae ganddi liw nodweddiadol o kombucha – ambr dwfn ond clir – ac mae’r arogl ychydig yn felys. Mae rhyw fwrlwm ysgafn dymunol iddi hefyd. Mae’r blas yn lân, ffres a phleserus, gyda chic sur da yng nghefn eich ceg. Gallwn ni ddychmygu ei llymeitian gyda chinio canol-dydd er mwyn glanhau’r tafod, neu fel dewis iachach yn lle gwin neu seidr.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​