Equinox Pink Grapefruit and Guava Kombucha

English | Cymraeg

Ein barn ar Equinox Pink Grapefruit and Guava Kombucha.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob can: 45 (18 ymhob 100ml)

Wedi’i phecynnu mewn can gwyn a phinc golau, mae’r komucha grawnffrwyth pinc a gwafa gan Equinox bron fel Lucozade gwelw o ran ei golwg wrth ei thywallt. Mae arogl grawnffrwyth cryf, gan addo blas adfywiol. Mae’r gwafa hefyd yn dod drwodd yn dda ar y trwyn. Diod eithaf bywiog yw hi, gyda digon o swigod!

Wrth ei llymeitian, mae blas deniadol sy’n sur, ffres a chymhleth. Ym marn ein panel profi, byddai’n ddiod dda at amser brecwast. Bydd caredigion kombucha yn fodlon gan fod nodau finegraidd hyfryd hefyd. Efallai bydd hi’n rhy finegraidd i rai os nad ydyn nhw wedi arferol â blas kombucha. Yn sicr, dyma ddiod i’r rhai sydd eisoes yn gyfarwydd â kombucha yn hytrach na’r sawl sy’n dod at y fath ddiodydd am y tro cyntaf.

Fel arfer, y cyngor yw i blant neu unrhyw un sy’n feichiog beidio ag yfed kombucha, gan fod y ddiod yn dal i eplesu ac felly gall faint o alcohol sydd ynddi amrywio, er nad yw’n codi uwchben 0.5% fel arfer.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​